Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA(4)-02-14:  Papur 1

 

GWYBODAETH GEFNDIR AM OFFERYNNAU STATUDOL GYDAG ADRODDIADAU CLIR

 

 

CLA342 – Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2013

 

Gweithdrefn:   Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygioRheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 er mwyn sicrhau bod y wybodaeth am waharddiadau cyfnod penodol a’r rhesymau dros waharddiadau yn cael eu hadrodd yn ystod y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion.

 

CLA343 – Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2013

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 ('Rheoliadau 1996') sy'n nodi'r prawf moddion ar gyfer penderfynu swm y grant y gellir ei dalu gan awdurdodau tai lleol o dan Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 1996 er mwyn ymdrin ag effaith taliad annibyniaeth y lluoedd arfog ar brofion modd ar gyfer cael grant cyfleusterau i'r anabl. 

 

CLA344 – Rheoliadau Tribiwnlys y Gymraeg (Penodi) 2013

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg (“y Tribiwnlys”). Bydd y Tribiwnlys yn cynnwys Llywydd, aelodau â chymwysterau cyfreithiol ac aelodau lleyg. Mae adran 120 o'r Mesur yn darparu bod Gweinidogion Cymru yn penodi aelodau'r Tribiwnlys.

 

Mae paragraff 9(1) o Atodlen 11 i'r Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth, drwy reoliadau, ynghylch penodi aelodau'r Tribiwnlys (y cyfeirir atynt yn y Mesur fel “rheoliadau penodi”).

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru wrth wneud penodiadau i'r Tribiwnlys. 

CLA345 – Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio yng Nghymru fel arfer ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar, neu ar ôl, 1 Medi 2013. Maent yn cydgrynhoi, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012 ('Rheoliadau 2012'). Mae Rheoliadau 2012 wedi eu dirymu yn unol â Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn ac maent yn parhau i fod yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar, neu ar ôl, 1 Medi 2013 ond cyn 1 Medi 2014.                                                                                                                                                                                                                                                                                 

 

CLA346 - Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) a Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2013

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 225/2012 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (CE) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran cymeradwyo sefydliadau i roi ar y farchnad, at ddefnydd bwyd anifeiliaid, gynhyrchion sy'n deillio o olewau llysiau a brasterau cymysg ac o ran y gofynion penodol ar gyfer cynhyrchu, storio, cludo a phrofi lefelau diocsin olewau, brasterau a chynhyrchion sy'n deillio ohonynt (OJ Rhif L77, 2012/03/16, t.1). 

 

CLA347 - Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Canfod Twyll) (Cymru) 2014[1]

 

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer pwerau i fynnu cael gwybodaeth er mwyn ymchwilio i dwyll tai. Gall swyddogion awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol i fusnesau fel banciau a chwmnïau cyfleustodau ddarparu gwybodaeth at ddiben ymchwilio i dwyll tai.